Gwybodaeth

y wybodaeth bwysig…

  • LLE? Llangrannog, Sir Aberteifi
  • PRYD? 6-9 Ebrill 2010
  • I BWY? I bawb! Plant, teuluoedd, myfyrwyr, parau a phobl sengl o bob oed! Croeso cynnes i’r di-Gymraeg ac i ddysgwyr; bydd offer cyfieithu ar gael.

beth sy’n digwydd yn llanw…

watcynCynhelir oedfa bob bore a phob nos, ac fe fydd cyfle i fanteisio ar gyfleusterau anturus Gwersyll Llangrannog yn ystod y dydd, mynychu seminarau ar bynciau amrywiol neu fynd am dro i ymweld a llwybrau a phentrefi prydferth arfordir Sir Aberteifi. Wedi’r oedfa nos bydd cyfle i ymuno mewn addoliad anffurfiol pellach neu gyfle i ymlacio a chymdeithasu dros baned o de.

Mae brecwast, cinio a swper wedi’i gynnwys yn y pris. Eleni, er mwyn medru cael lle i fwy a chynnig amrediad mwy cystadleuol o brisiau mae modd gwersylla yn ogystal a llogi ystafell dan do. Cliciwch ar y ddolen ‘archebu’ uchod i weld y prisiau a chyfarwyddiadau sut i archebu. Eleni mae modd, ac rydym yn eich annog, i archebu ar-lein; rydym yn defnyddio cwmni Cristnogol profiadol sef y Good Book Co. i weinyddu hyn a bydd eich manylion yn gwbl saff.

plant

plant a ieuenctid…

Mi fydd darpariaeth lawn ar gyfer y plant gydol yr wythnos, clybiau yn ystod y gwasanaethau a rhyddid i fwynhau y gweithgareddau fel sgio a gwib-gartio yn y prhynhawn. Bydd yn wŷl deuluol ar gyfer holl deulu Crist. Gall unigolyn rhwng 14 a 17 mlwydd oed fynychu’r wŷl heb eu rhieni os yw Capel neu Warchodwr yn gyfrifol amdano.

siaradwyr Llanw 2010…

Meirion Morris: Mae Meirion yn Weinidog yn Llansannan ac yn arwain y cynllun hyfforddi DAWN. Yn un o sylfaenwyr Llanw fe fydd ein prif siaradwr eleni yn siarad yng nghyfarfodydd y bore.

Graham Daniels: Yn wreiddiol o Lanelli ond bellach mae Graham yn byw dros y ffin yn cyfarwyddo gwaith Christians in Sports. Fe fydd ein siaradwr yn nathliad nos Fawrth.

Phil Ellis: Mae Phil yn athro wedi ymddeol ac maen aelod yn Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd. Fe fydd ein siaradwr yn nathliad nos Fercher.

Rhun Murphy: Yn wreiddiol o Fangor ond bellach yn Weinidog yn Rhosllanerchrugog. Rhun fydd ein siaradwr yn nathliad nos Iau.